R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran hybu'r iaith Gymraeg? OAQ(4)2351(FM)W
2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag adeiladu economïau rhanbarthol yng Nghymru? OAQ(4)2353(FM)
3. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad yr UE yn Sir y Fflint? OAQ(4)2354(FM)
4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y mecanweithiau sydd ar waith i adolygu gwaith uwch reolwyr mewn byrddau iechyd lleol? OAQ(4)2350(FM)
5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynigion a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)2362(FM)
6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa fanteision economaidd a ddaeth i dde Cymru o ganlyniad i'r Velothon diweddar? OAQ(4)2361(FM)
7. Keith Davies (Llanelli):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y Gwasanaeth Heddlu Awyr Cenedlaethol? OAQ(4)2364(FM)W
8. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar yng Nghymru? OAQ(4)2359(FM)
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant iaith Gymraeg o fewn y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid? OAQ(4)2360(FM)W
10. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella'r economi wledig yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2357(FM)
11. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni ei rhwymedigaethau newid hinsawdd? OAQ(4)2363(FM)
12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn mewn perthynas â phrosiectau adfywio? OAQ(4)2352(FM)W
13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwirfoddoli yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)2358(FM)
14. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo'r iaith Gymraeg? OAQ(4)2349(FM)W
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog arfer gorau ymhlith awdurdodau lleol o ran gwella lles anifeiliaid? OAQ(4)2356(FM)